Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol

Rhagfyr 2022

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

 

1.  Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi

 

Mark Isherwood AS, Cadeirydd

Aelodau:

·        Altaf Hussain AS

·        Mike Hedges AS  

·        Sioned Williams AS

·        Sarah Murphy AS

·        Peredur Owen Griffiths AS

·        Heledd Fychan AS

Megan Thomas (Anabledd Cymru), Ysgrifenyddiaeth.

2.  Aelodau’r Grŵp a oedd yn bresennol

 

Justin Williams (Asiantaeth Cyflogaeth dan Gymorth Elite), Petra Kennedy (Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful), Laura Thomas (Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot), Jessica Laimann (Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru), Louise Sweeney (Cyngor Cymru i Bobl Fyddar), Maggie Hayes (Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot), Trevor Palmer (Anabledd Cymru), Erica Thomas, Craig Channell, Debbie Shaffer (Triniaeth Deg i Ferched Cymru), Nathan Owen (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol), Christine Stewart, Willow Howard (Anabledd Cymru, Autistic UK), Owen Williams (Cyngor Deillion Cymru), Marg McNeill (See Around Britain), Kayleigh England Maxted (Asiantaeth Cyflogaeth dan Gymorth Elite), Tracey Blockwell (Fforwm Mynediad Torfaen), Cari Jones, Joanna Fashan (Whizz Kids), Rebecca Banister-Findley (Cyngor Sir Castell-nedd Port  Talbot), Chris Selway (y Gymdeithas Anafiadau Asgwrn Cefn), Morvenna Dorita, Kelvin Jones (Anabledd Cymru), Stephen Sweetman, Amanda Say, Jan Thomas (Fforwm Anabledd Sir y Fflint), Rebecca Phillips (Cyngor Deillion Cymru), Alison Tarrant, Becky Rickets (Gofal a Thrwsio Cymru), Lorraine Cosgrove, George Lockett, Yvonne Walton, Graham Findlay, Jake Smith (Gofalwyr Cymru), Lara Warlow, Kelly Stuart (Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan), Joe Powell (Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan), Bill Fawcett, Dee Montague, Monique Craine (Gwasanaethau Ymgynghori Monique Craine), Jenny Carroll (Parlys yr Ymennydd Cymru), Mandi Glover, Andrea Gordon (Cŵn Tywys Cymru), Louise Sweeney (Cyngor Cymru i Bobl Fyddar), Dean Waters (Abaty Nedd), Eleanor Llewelyn, Martin Griffiths, Derek Price, Ryland Doyle (Swyddfa Mike Hedges), Zoe Richards (Anabledd Dysgu Cymru), Robert Lloyd (Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych), Gareth Marshall (Legacy in the Community), Katherine Lowther (y Coleg Brenhinol Seiciatreg), Chris Dunn (Diverse Cymru), Y Cynghorydd Teresa Carberry (Cyngor Sir y Fflint), Rhian Davies (Anabledd Cymru), Alex Osborne (Anabledd Cymru), Miranda Evans (Anabledd Cymru), Kat Watkins (Anabledd Cymru), Shaun Bendle (Anabledd Cymru), Leandra Craine (Anabledd Cymru) a Megan Thomas (Anabledd Cymru). 

3.  Cyfarfodydd blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf

 

Cyfarfod 1

 

Dyddiad: 31/03/2022

Siaradwyr: Jane Hutt AS, Sioned Williams AS, Megan Thomas (Anabledd Cymru). 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cafodd cyfarfod y Grŵp ei ddefnyddio fel digwyddiad lansio ar gyfer Adroddiad Cysgodol y Gymdeithas Sifil ar Weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng Nghymru. Yn ystod hanner cyntaf y sesiwn, cafwyd cyflwyniad ynghylch yr adroddiad, ac yn yr ail hanner, cafwyd sesiwn holi ac ateb trawsbleidiol gyda Jane Hutt AS a Sioned Williams AS.

 

Cyfarfod 2

 

Dyddiad: 28/07/2022

Siaradwyr: Marg McNiell (See Around Britain), Ben Cottam (y Ffederasiwn Busnesau Bach)

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cafwyd trafodaeth ynghylch yr argyfwng costau byw. Talwyd teyrnged i'r diweddar Vin West MBE, ymgyrchydd ym maes hawliau pobl anabl ac aelod o'r Grŵp. Cafwyd dau gyflwyniad, un gan See Around Britain ynghylch map rhyngweithiol ar-lein sy’n caniatáu i bobl anabl wirio hygyrchedd gwahanol leoliadau. Rhoddwyd yr ail gyflwyniad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch ei adroddiad “Busnes Heb Rwystrau” (“Business Without Barriers”). Daeth y sesiwn i ben gyda thrafodaeth Grŵp ynghylch llythyr posibl at y Gweinidog Trafnidiaeth; niwroamrywiaeth yn y system gyfiawnder; a’r Bil Hawliau Dynol. Cafwyd y trafodaethau hyn o dan y pennawd ‘Unrhyw Fater Arall’.

 

Cyfarfod 3:

 

Dyddiad: 21/10/2022

Siaradwyr: Hayden Banks (National Energy Action)

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Yn gyntaf, cafwyd trafodaeth ynghylch y dulliau y gallai’r Grŵp eu defnyddio er mwyn cefnogi gwaith See Around Britain ymhellach. Cafwyd cyflwyniad gan National Energy Action (NEA) ynghylch yr argyfwng costau byw. Roedd y drafodaeth olaf ar yr agenda yn canolbwyntio ar y cynllun bathodyn glas, wrth i gynllun newydd gael ei lansio. O dan y pennawd ‘Unrhyw Fater Arall’, trafodwyd materion yn ymwneud â’r Adran Gwaith a Phensiynau; canllawiau i fusnesau ar gefnogi pobl anabl yn ystod yr argyfwng costau byw; effaith y Gronfa Ffyniant Gyffredin; a gostyngiad yn y dreth gyngor i bobl anabl.

 

Cyfarfod 4:

 

Dyddiad: 01/12/2022

Siaradwyr: Alix Roberts (Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych)

Crynodeb o’r materion a drafodwyd: Cafwyd cyflwyniad gan Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar y cymorth sydd ar gael gan Gyngor ar Bopeth. Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, lle cafodd Mark Isherwood AS ei ail-ethol yn Gadeirydd a chafodd Megan Thomas ei hail-ethol yn Ysgrifennydd. Cafwyd trafodaeth ynghylch pynciau posibl ar gyfer siaradwr o’r Adran Gwaith a Phensiynau yn y cyfarfod nesaf. Cafwyd trafodaeth ar sicrhau mynediad i waith, triniaeth o gyflyrau tymor hir, ac agweddau tuag at fodel cymdeithasol o anabledd. Cafwyd trafodaeth ynghylch Diwrnod Rhyngwladol Anabledd, a phenderfynodd yr aelodau ar y blaenoriaethau a ganlyn ar gyfer y tymor nesaf: yr argyfwng costau byw, taliadau uniongyrchol, ymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, a lleisiau plant anabl. Cafwyd diweddariad gan Rhian Davies (Anabledd Cymru) ar Dasglu Llywodraeth Cymru ar Hawliau Pobl Anabl. O dan y pennawd ‘Unrhyw Fater Arall’, trafodwyd Bil Aelod unigol Mark Isherwood AS mewn perthynas ag Iaith Arwyddion Prydain, sydd yn yr arfaeth.

 

4.  Cyfarfu lobïwyr a sefydliadau proffesiynol â’r sefydliadau a ganlyn:

 

Y Ffederasiwn Busnesau Bach

Piws

See Around Britain

National Energy Action

Anabledd Cymru

 

Datganiad Ariannol Blynyddol

Rhagfyr 2023

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

Cadeirydd: Mark Isherwood AS

Ysgrifennydd: Megan Thomas (Anabledd Cymru)

 

Treuliau’r Grŵp

Palanteipio

Hilary McClean – 17/12/2021

                             – 21/10/2022

Susan McIntyre – 31/03/2022

Mirella Fox          – 28/01/2022

 

Cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Cyngor Cymru i Bobl Fyddar – 21/10/2022

 

£100

£190

£264

£210

 

 

 

£150

Cost yr holl nwyddau

 

£574

Buddiannau a gafodd y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol

Dim

£0

Unrhyw gymorth ysgrifenyddol neu gymorth arall

Anabledd Cymru sy’n darparu gwasanaethau ysgrifenyddol ar gyfer y Grŵp

£0

Cyfanswm y gost

 

£574

 

Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, megis lletygarwch

Dyddiad

Disgrifydd

Cost

Dim

Dim

£0

Cyfanswm y gost

 

£0